Voco Chat
Voir profil pour Smartbox Welsh
Mae Voco Chat yn eirfa gryno sy’n defnyddio symbolau, wedi’i dylunio i alluogi defnyddwyr i gyfathrebu am ystod eang o resymau. Mae’r llwybrau negeseuon, sy’n cynnwys geirfa wedi’i dewis yn ofalus ac sy’n caniatáu i chi neidio yn ôl ac ymlaen, yn cefnogi pobl i ddefnyddio iaith. Mae’r set o gridiau yn cynnwys adnoddau ar gyfer cefnogi cyfathrebu a lles emosiynol, gydag apiau fel Symoji a Chamera i helpu pobl i ryngweithio ac ymgysylltu.
Mae Voco Chat yn addas i unrhyw un sydd angen celloedd mwy o faint, a gellir ei defnyddio gyda thechnoleg cyffwrdd, olrhain llygaid, pwyntio a switsh. Caiff anogwyr clywedol eu cynnwys ar gyfer y colofnau a’r celloedd unigol.
Pan fyddwch chi’n ychwanegu Voco Chat am y tro cyntaf, gallwch naill ai ddewis ‘Plentyn’ neu ‘Pobl Ifanc ac Oedolion’ er mwyn cael yr eirfa fwyaf priodol i'r defnyddiwr.
v1.04
Grid 3
